PAM ydy CwmniCymraeg.com wedi’i sefydlu?

- i gryfhau busnesau lleol

Pum mlynedd yn ôl, roedd yn anodd prynu gwefan am yn llai na 2000 o bunnoedd. Yn aml iawn, hyd heddiw, mae’r prisiau’n dal i fod yn ddychrynllyd o uchel. Mae hyn wedi cadw’r rhan helaeth o fusnesau bychain cefn gwlad Cymru rhag fynd arlein, ac mae hynny wedi creu sefyllfa lle mae busnesau o’r tu allan yn dechrau cymryd drosodd, yn enwedig adeg y Nadolig. Dylai fod gen POB busnes bach Cymraeg wefan - dylai fod modd i rywun yn Llithfaen sydd ddim am ddreifio i lawr i Nefyn neu Bwllheli brynu pethau arlein o siop yn Nefyn neu Bwllheli, yn lle Amazon.com.

Ond mae’n ymddangos na fydd hynny’n digwydd hyd nes bydd busnesau Cymraeg yn medru gweld bod modd iddynt fynd arlein heb risg ariannol mawr i gychwyn, a dyna ydy’r meddylfryd y tu ôl i CwmniCymraeg.com. Nid oes angen i’r un cwmni dalu’r un dime goch cyn eu bod yn hollol hapus gyda’u gwefan, ac wedyn yr unig peth sydd angen ydy tâl misol isel dros ben, llawer iawn llai na phris hysbyseb mewn papur newydd.

- i wneud y We’n fwy Gymreig a Chymraeg

Ein gobaith ydy y bydd hyn yn agor y drysau i gwmnïau Cymraeg fynd arlein yn y niferoedd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pobl leol yn cael siopa’n lleol hyd yn oed pan maen nhw’n aros adref ac yn defnyddio’r We.

Dyna ydy pam mae ein prisiau mor isel - er bod rhaid sicrhau y bydd CwmniCymraeg.com yn hunangynhaliol, ein hamcan yn hyn o beth ydy creu newid real bydd o fantais sylweddol i fusnesau Cymraeg. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’r busnesau sy’n codi miloedd am eu gwefannau, nid ydym yn breuddwydio am orfodi busnesau bychain i brynu Ferraris i ni!