Canolfan Gyngor CwmniCymraeg.com

Fan hyn, cewch fynediad i erthyglau sydd yn esbonio
sut i wneud y defnydd gorau o’ch gwefan newydd. Sut i:

  • rheoli eich gwefan yn uniongyrchol

  • newid cynnwys heb dalu ceiniog
  • farchnata’n llwyddiannus ar y We ac yn lleol

ynghyd â nifer o bwyntiau eraill. Dewiswch beth yr ydych am ddarllen mwy amdani o’r rhestr isod, cliciwch ar y penawd priodol, a chewch y math o wybodaeth y byddai llawer o gwmnïau yn codi ffi hyfforddi sylweddol arnoch chi am ei darparu!

Wrth gwrs, os bydd ganddoch gwestiwn heb ei ateb yn fan hyn, croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol gyda ni ar aran[at]cwmnicymraeg.com…:-)

Sut i weld faint o ymwelwyr wedi bod ar eich gwefan

Sut i greu cyfeiriadau e-bost ychwanegol ar gyfer eich cwmni

Sut i newid y testun ar eich tudalennau

Sut i roi lluniau ar eich tudalennau

Sut i farchnata eich gwefan arlein

Sut i farchnata eich gwefan yn y byd ‘real’

Sut i ateb ymholiadau yn awtomatig

 


 

Sut i weld faint o ymwelwyr wedi bod ar eich gwefan

Dyma un o’r pethau pwysicaf i chi wybod am eich gwefan - pa mor frysur ydy hi?!
Gyda’ch gwefan CwmniCymraeg.com, mae’n hawdd gael hyd o’r ateb.

Yn gyntaf, mae angen i chi fewngofnodi i’ch ‘cPanel’ - sef y panel rheoli ar gyfer eich gwefan. Rydych yn gwneud hyn trwy roi www.eichgwefan.com/cpanel yn bar cyfeiriad eich porwr. Hynny yw, os ydy enw eich gwefan yn www.delynlocks.com, mae angen i chi roi www.delynlocks.com/cpanel yn y bar cyfeiriad.

Unwaith i chi wneud hynny, bydd ffenest bach yn codi yn gofyn i chi am enw a chyfrinair. Rhowch yr enw a chyfrinair eich bod wedi derbyn oddi wrth CwmniCymraeg.com yn barod. Os byddwch wedi anghofio eich enw a chyfrinair, cysylltwch ag aran[at]cwmnicymraeg.com - byddwn yn anfon eich enw a’ch cyfrinair atoch, gyda chais diffuant i chi sgwennu nhw i lawr yn rhywle hawdd i’w gofio!

Unwaith y byddwch wedi rhoi’r enw a chyfrinair cywir i mewn, byddwch yn cyrraedd tudalen blaen eich cPanel. Mi welwch gwybodaeth gyffredinol i lawr chwith y tudalen, a nifer o luniau i’r dde. Rydych yn chwilio am y llun cyntaf yn y pedwerydd llinell i lawr, sef ‘Web/FTP Stats’ (yn anffodus, dydy cPanel ddim eto ar gael yn y Gymraeg).

Cliciwch ar ‘Web/FTP Stats’, ac mi welwch nifer o ddewisiadau ar gyfer gweld ystadegau eich gwefan. Rydym yn argymhell i chi gychwyn gyda’r trydydd i lawr, sef ‘Webalizer’ - cliciwch ar y gair ‘Webalizer’, a byddwch yn gweld gorolwg o’ch gwefan. Am fanylion pellach, cewch glicio ar y misoedd fesul mis. ‘Visits’ ydy’r ffigwr pwysicaf, sef faint o ymweliadau unigol sydd wedi bod - mae ‘hits’ yn cyfrif pob ffeil ar wahân, felly os oes ganddoch pump llun ar dudalen, bydd un ymweliad i’r tudalen yn cyfrif fel 6 ‘hit’, sydd yn gwneud y term ‘hits’ yn gamarweiniol. Rydych chi eisiau gwybod faint o ymweliadau mae eich gwefan yn derbyn.

Wrth i chi glicio ar fis penodol, byddwch yn medru gweld pryd yn union daeth yr ymweliadau, i ba tudalennau, o le daethant (mae hyn yn gymorth mawr i chi weld os ydy hysbyseb penodol arlein yn denu llawer o ymateb), a hyd yn oed pa dermau roedd eich ymwelwyr wedi rhoi yn y peiriannau chwilota (os mae trwy beiriant chwilota roedden nhw wedi cael hyd ohonoch).

Nôl i ben y tudalen

 


 

Sut i greu cyfeiriadau e-bost ychwanegol ar gyfer eich cwmni

Y peth cyntaf bod rhaid i chi wneud er mwyn creu enwau e-bost ychwanegol ydy i fewngofnodi i’ch cPanel, sef y panel rheoli ar gyfer eich gwefan, fel disgrifiwyd uchod.

Rydych yn gwneud hyn trwy roi www.eichgwefan.com/cpanel yn bar cyfeiriad eich porwr. Hynny yw, os ydy enw eich gwefan yn www.delynlocks.com, mae angen i chi roi www.delynlocks.com/cpanel yn y bar cyfeiriad.

Unwaith i chi wneud hynny, bydd ffenest bach yn codi yn gofyn i chi am enw a chyfrinair. Rhowch yr enw a chyfrinair eich bod wedi derbyn oddi wrth CwmniCymraeg.com yn barod. Os byddwch wedi anghofio eich enw a chyfrinair, cysylltwch ag aran[at]cwmnicymraeg.com - byddwn yn anfon eich enw a’ch cyfrinair atoch, gyda chais diffuant i chi sgwennu nhw i lawr yn rhywle hawdd i’w gofio!

Unwaith y byddwch wedi rhoi’r enw a chyfrinair cywir i mewn, byddwch yn cyrraedd tudalen blaen eich cPanel. Mi welwch gwybodaeth gyffredinol i lawr chwith y tudalen, a nifer o luniau i’r dde. Rydych chi eisiau clicio ar y llun cyntaf yn y llinell cyntaf, sef ‘Mail’ (yn anffodus, nid yw cPanel ar gael eto yn y Gymraeg).

Byddwch wedyn yn cyrraedd y ‘Mail Manager Main Menu’, gyda nifer o ddewisiadau gwahanol. I greu cyfeiriad sydd yn anfon e-bost ymlaen (hynny yw, bod rhywun sydd yn gweithio gyda chi gyda’r e-bost dewi@bbc.co.uk, a rydych eisiau i dewi@eichgwefan.com anfon e-bostiau ato fo), cliciwch ar ‘Forwarders’. Wedyn, cliciwch ar ‘Add Forwarder’.

Rhowch yr enw o flaen yr ‘@’ yn y blwch cyntaf (er enghraifft, ‘dewi’ yn yr achos uchod), ac wedyn rhowch y cyfeiriad llawn (dewi@bbc.co.uk yn yr enghraifft uchod) yn yr ail flwch.

Yna, cliciwch ar ‘Add Forwarder’, a bydd y cyfeiriad newydd yn weithredol o fewn ychydig o funudau.

Nôl i ben y tudalen

 


 

Sut i newid y testun ar eich tudalennau

Mae nifer o ddarparwyr gwefannau yn codi pres mawr am hyn - ond gyda CwmniCymraeg.com, mae am ddim fel rhan o’ch pecyn…:-)

Os ydy eich gwefan yn ddwyieithog, mae ganddoch ddwy banel rheoli - un at www.eichgwefan.com/cymraeg/wp-admin a’r llall at www.eichgwefan.com/saesneg/wp-admin. Os oes ganddoch wefan uniaith Gymraeg, dim ond www.eichgwefan.com/cymraeg/wp-admin bydd angen.

Byddwch wedi derbyn manylion mewngofnodi wrth i ni gysylltu i ddweud bod eich gwefan yn barod. Os ydach chi wedi colli’r manylion, cysylltwch ag aran[at]cwmnicymraeg.com - byddaf yn anfon eich enw a’ch cyfrinair atoch, gyda chais diffuant i chi sgwennu nhw i lawr yn rhywle hawdd i’w gofio!

Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, mae newid y testun yn hynod syml - cliciwch ar ‘Manage’ ac wedyn ‘Pages’, dewis y tudalen sydd eisiau, cliciwch ar ‘Edit’, newid y testun yn y bocs a ddaw i fyny, ac i orffen cliciwch ar ‘Save’.

Os ydach chi’n awyddus i reoli’r testun y tu hwnt i’r opsiynau sydd ar gael yn y bocs golygu eisoes, mae angen i chi ddysgu mwy o HTML. I ddysgu mwy am sut mae newid html, rydym yn argymhell eich bod yn cychwyn gyda www.htmlgoodies.com.

Nôl i ben y tudalen

 


 

Sut i roi lluniau ar eich tudalennau

Y peth cyntaf bod rhaid i chi wneud er mwyn rhoi lluniau ar eich tudalennau ydy i fewngofnodi i’ch cPanel, sef y panel rheoli ar gyfer eich gwefan, fel disgrifiwyd uchod.

Rydych yn gwneud hyn trwy roi www.eichgwefan.com/cpanel yn bar cyfeiriad eich porwr. Hynny yw, os ydy enw eich gwefan yn www.delynlocks.com, mae angen i chi roi www.delynlocks.com/cpanel yn y bar cyfeiriad.

Unwaith i chi wneud hynny, bydd ffenest bach yn codi yn gofyn i chi am enw a chyfrinair. Rhowch yr enw a chyfrinair eich bod wedi derbyn oddi wrth CwmniCymraeg.com yn barod. Os byddwch wedi anghofio eich enw a chyfrinair, cysylltwch ag aran[at]cwmnicymraeg.com - byddwn yn anfon eich enw a’ch cyfrinair atoch, gyda chais diffuant i chi sgwennu nhw i lawr yn rhywle hawdd i’w gofio!

Unwaith y byddwch wedi rhoi’r enw a chyfrinair cywir i mewn, byddwch yn cyrraedd tudalen blaen eich cPanel. Mi welwch gwybodaeth gyffredinol i lawr chwith y tudalen, a nifer o luniau i’r dde. Rydych chi eisiau clicio ar yr ail lun yn yr ail reng, sef ‘File Manager’ (yn anffodus, nid yw cPanel ar gael eto yn y Gymraeg).

Bydd ffenest newydd yn agor gyda nifer o blygellau i’w gweld ynddo fo. Dyma cynnwys gwreiddiol eich gwefan, felly mae eisiau i chi fod yn ofalus i beidio â dileu unrhyw beth! Cliciwch ar y plygell melyn i’r chwith o ‘public_html’ ac mi welwch chi holl gynnwys plygellau a ffeiliau eich gwefan. Os oes plygell ‘Lluniau’ ar gael, cewch glicio ar y plygell melyn i’r chwith o’r gair ‘Lluniau’ i fynd i fewn iddo - os nad oes plygell ‘Lluniau’, cewch greu un trwy glicio ar ‘Create New Folder’ ar ben y tudalen.

Unwaith bod ganddoch chi blygell ‘Lluniau’, ac wedi mynd i fewn iddo trwy glicio ar y plygell melyn i’r chwith o’r gair ‘Lluniau’, rydych yn barod i lwytho lluniau o’ch cyfrifiadur i’ch gwefan.

I gychwyn, cliciwch ar ‘Upload file(s)’, wedyn cliciwch ar ‘Browse’ ger un o’r bocsiau gwag daw i fyny. Wedyn, dim ond angen i chi ddewis y ffeil rydych eisiau oddi ar eich cyfrifiadur, a chliciwch ar ‘Upload’ - caiff y ffeil ei lwytho yn syth.

Bydd cyfeiriad eich ffeil yn www.eichgwefan.com/lluniau/enwffeil.jpg (neu .gif neu rywbeth tebyg). Mae hyn yn bwysig - rhaid cael y cyfeiriad yn berffaith cywir i’r llun ddangos.

I ddangos y llun ar dudalen yn eich gwefan, cwbl sydd angen ydy i chi roi’r côd
<img src=”http://www.eichgwefan.com/lluniau/enwffeil.jpg”> lle bynnag rydych eisiau cael y llun (gan gofio i roi .gif neu estyniad arall yn lle .jpg yn dibynnu ar estyniad y ffeil).

Os ydach chi’n awyddus i reoli’r llun yn bellach, mae angen i chi ddysgu mwy o HTML. I ddysgu mwy am sut mae newid html, rydym yn argymhell eich bod yn cychwyn gyda www.htmlgoodies.com.

Nôl i ben y tudalen

 


 

Sut i farchnata eich gwefan arlein

Mae llawer iawn o gwmnïau creu gwefannau yn addo pob dim i chi ar ran nifer ymwelwyr - i wrando arnyn nhw, byddai rhywun yn disgwyl y bydd miloedd o bobl yn heidio i’ch gwefan yr eiliad iddi ymddangos ar y We.

Nid yw hyn yn wir.

Mae’r We fel y byd - rhannau prysur, rhannau heb neb ynddyn nhw. Dim ond un ffordd ‘newydd’ sydd i sicrhau bod eich gwefan chi yn mynd yn brysur, yn lle eistedd yng nghanol y rhith-Sahara, sef i wneud yn dda yn y peiriannau chwilota, fel Google, Yahoo ac MSN.

Newyddion drwg - nid yw’n hawdd gwneud yn dda yn y peiriannau chwilota. Mae llawer o gwmnïau creu gwefannau yn addo rhoi eich gwefan mewn ‘miloedd’ o beiriannau chwilota, sydd yn arwydd drwg i gychwyn - dim ond tri sy’n cyfrif, sef y tri wedi’u henwi uchod. A dim ond un ffordd sydd i wneud yn dda ynddynt - gwneud ymchwil manwl i weld pa allweddeiriau mae pobl yn defynddio i chwilio am fusnesau fel eich busnes chi, ac wedyn creu tudalen llawn cynnwys perthnasol a diddorol ar gyfer pob allweddair priodol.

Hynny yw, gwefan gyda 50 i 150 o dudalennau. Mae’r peiriannau chwilota yn chwilio am gynnwys defnyddiol a diddorol, a dyna beth sydd angen ei gynnig er mwyn gwneud yn dda gyda Google neu Yahoo. Os oes ganddoch ddiddordeb mewn creu gwefan felly, anfonwch e-bost at aran[at]cwmnicymraeg.com, a byddaf yn eich cyfeirio at y sustemau gorau ar gyfer gwneud hynny.

Ond mae’n bwysig i chi fod yn ymwybodol bod dim ’short cuts’ ar gael ar gyfer creu y math yno o wefan llawn cynnwys da - mae’n *rhaid* darparu’r cynnwys.

Yn ffodus, mae un ffordd arall i hyrwyddo eich gwefan chi arlein. Defnyddiwch
teclyn Overture i asesu faint o ddefnydd sydd o allweddeiriau cysylltiedig (cliciwch yn
fan hyn i’w defnyddio (dim ar gael yn y Gymraeg)) - rhowch allweddair yn y blwch a byddwch yn gweld pa mor aml mae pobl wedi chwilio am y gair hwnnw yn y mis diwethaf, a pha eiriau eraill sydd yn gysylltiedig iddo wedi cael eu defnyddio hefyd.

Unwaith bod ganddoch rhai allweddeiriau sydd yn edrych yn addawol (yn dibynnu ar faint o ymwelwyr rydych yn ceisio eu denu pob mis), rhowch yr allweddeiriau yno i mewn i Google a gweld os ydy unrhyw gwmnïau yn y pump canlyniad uchaf yn gwerthu lle hysbysebu.

Neu, fel opsiwn arall, cewch hysbysebu ar y peiriannau chwilota eu hunain - cliciwch ar y geiriau isod i ddarganfod mwy am hysbysebion Yahoo! neu hysbysebion Google.

Ond cofiwch, mae’n bosib iawn y bydd hysbyseb yn eich papur lleol yn cyrraedd mwy o bobl gyda diddordeb yn eich cwmni chi! Dyna pam rydym yn pwysleisio dulliau ‘traddodiadol’ yn y erthygl isod. Os ydych yn dewis hysbysebu arlein, mae’n hynod, hynod bwysig eich bod yn asesu eich canlyniadau trwy wylio ystadegau eich gwefan yn ofalus iawn, i weld faint o bobl sydd yn cyrraedd trwy glicio ar un o’ch hysbysebion, a faint mae hynny yn eich costio chi wrth gymharu gyda’r canran o ymwelwyr sydd yn prynu rhywbeth ganddoch. Mae modd bod yn llawer iawn mwy fanwl am hyn gyda hysbysebion arlein, ond mae’n bwysig bod chi ddim yn cymryd yn ganiataol y bydd hysbysebion arlein yn dod â mwy o ymwelwyr i’ch gwefan na hysbysebion traddodiadol.

Nôl i ben y tudalen

 


 

Sut i farchnata eich gwefan yn y byd ‘real’

Byddwch yn hen gyfarwydd gyda hysbysebu yn y byd ‘real’, wrth gwrs. Yr unig peth sydd angen ei hychwanegu unwaith bod ganddoch wefan ydy’r arfer o gynnwys eich cyfeiriad We ar bob achlysur posibl. Os byddwch yn hysbysebu yn y papur lleol, rhowch gyfeiriad eich gwefan i mewn fel rhan o’r hysbyseb, a bydd pobl sydd gyda diddordeb yn medru darllen llawer iawn mwy am eich gwasanaethau chi.

Os oes ganddoch papur pennawd ar gyfer eich busnes, cofiwch ychwanegu eich cyfeiriad We i’r papur pennawd, a gwnewch yr un peth gyda slipiau cyfarchion.

Hefyd, mae eisiau sicrhau bod pob e-bost rydych yn ei anfon gyda llinell ar y diwedd yn sôn am eich gwefan - mae’r rhan helaeth o raglenni e-bost yn medru gosod hyn yn awtomatig i chi.

Peidiwch ag anghofio eich cwsmeriaid presennol, hefyd! Os fedrwch sicrhau bod cyfeiriad eich gwefan ar anfonebau, neu fagiau plastig, neu beth bynnag rydych yn rhoi i’ch cwsmeriaid, a rydych yn sicrhau bod cynnwys defnyddiol ar eich gwefan, bydd modd i chi greu perthynas cryfach gyda’ch cwsmeriaid presennol. Efallai y medrwch rhedeg ambell raffl, neu gystadleuaeth, ar eich gwefan er mwyn cael eich cwsmeriaid i’w defnyddio - meddyliwch yn greadigol!

Nôl i ben y tudalen

 


 

Sut i ateb ymholiadau yn awtomatig

Y peth cyntaf bod rhaid i chi wneud er mwyn creu enwau e-bost ychwanegol ydy i fewngofnodi i’ch cPanel, sef y panel rheoli ar gyfer eich gwefan, fel disgrifiwyd uchod.

Rydych yn gwneud hyn trwy roi www.eichgwefan.com/cpanel yn bar cyfeiriad eich porwr. Hynny yw, os ydy enw eich gwefan yn www.delynlocks.com, mae angen i chi roi www.delynlocks.com/cpanel yn y bar cyfeiriad.

Unwaith i chi wneud hynny, bydd ffenest bach yn codi yn gofyn i chi am enw a chyfrinair. Rhowch yr enw a chyfrinair eich bod wedi derbyn oddi wrth CwmniCymraeg.com yn barod. Os byddwch wedi anghofio eich enw a chyfrinair, cysylltwch ag aran[at]cwmnicymraeg.com - byddwn yn anfon eich enw a’ch cyfrinair atoch, gyda chais diffuant i chi sgwennu nhw i lawr yn rhywle hawdd i’w gofio!

Unwaith y byddwch wedi rhoi’r enw a chyfrinair cywir i mewn, byddwch yn cyrraedd tudalen blaen eich cPanel. Mi welwch gwybodaeth gyffredinol i lawr chwith y tudalen, a nifer o luniau i’r dde. Rydych chi eisiau clicio ar y llun cyntaf yn y llinell cyntaf, sef ‘Mail’ (yn anffodus, nid yw cPanel ar gael eto yn y Gymraeg).

Byddwch wedyn yn cyrraedd y ‘Mail Manager Main Menu’, gyda nifer o ddewisiadau gwahanol. I osod ateb awtomatig, cliciwch ar ‘Autoresponders’ ac wedyn ‘Add Autoresponder’.

Wedyn, mae angen i chi ddewis y cyfeiriad e-bost ar gyfer yr ateb awtomatig. Efallai y byddwch yn dewis rhywbeth fel ‘prisiau@eichgwefan.com‘ er mwyn anfon rhestr o brisiau allan yn awtomatig. Os felly, rydych yn rhoi prisiau@eichgwefan.com yn y blwch cyntaf.

Yn yr ail flwch, mae angen rhoi’r enw ‘Oddi Wrth’ a fydd yn ymddangos ar eich e-bost awtomatig - rydym yn argymhell yn gryf iawn i chi ddewis eich cyfeiriad yn arferol, fel bydd unrhyw ddarpar gwsmeriaid sydd yn pwyso ‘Ateb’ ar yr e-bost awtomatig yn eich cyrraedd chi yn hytrach nag ateb awtomatig arall!

Wedyn, rhowch bwnc y neges yn y blwch ‘Subject’ - er enghraifft, ‘Ateb i gais am brisiau ar www.eichgwefan.com‘, fel bod y derbynnydd yn gweld bod eich e-bost ddim yn sbam.

Mae’n hawdd gwneud hyn i gyd yn ddwyieithog, trwy osod ateb awtomatig ar gyfer ‘prisiau@eichgwefan.com‘ ac un arall ar gyfer ‘prices@eichgwefan.com‘.

Os ydych eisiau i’r cyfeiriad ateb awtomatig hefyd anfon y neges ymlaen atoch chi (fel bod modd i chi weld pan mae pobl yn ei defnyddio), mae angen i chi osod ‘Forwarder’ fel disgrifiwyd uchod (cliciwch yn fan hyn i’w darllen) gan ddefnyddio’r union un enw ar gyfer y ‘forwarder’ a hynny sydd ganddoch ar gyfer yr ateb awtomatig. Os ydych eisiau gweld beth sydd yn mynd at ‘prisiau@eichgwefan.com‘, er enghraifft, mae’n rhaid i chi osod ‘prisiau@eichgwefan.com‘ fel ‘forwarder’ hefyd, yn anfon e-bostiau ymlaen at eich cyfeiriad e-bost arferol.

Nôl i ben y tudalen